Y Celfyddydau ac Iechyd
Grym y celfyddydau i wella iechyd a lles. Gyda'i gilydd, gall artistiaid a chlinigwyr wneud gwahaniaeth enfawr.
Yn fwyfwy mae pobl yn cydnabod cyfraniad y celfyddydau at iechyd a lles Cymru.
Yn ystod y pandemig, mae pobl a chymunedau wedi bod yn troi at greadigrwydd am fwynhad ac i aros mewn cysylltiad.
Ers cyhoeddi ein hastudiaeth a fapiodd celfyddydau ac iechyd Cymru, rydym ni’n gweithio gyda’r maes iechyd i ystyried sut y gall creadigrwydd greu Cymru iachach.
Mae partneriaeth wrth wraidd ein holl waith yn y maes. Mae ein Memorandwm o Ddealltwriaeth - Cydnabod gwerth y celfyddydau creadigol ar gyfer iechyd a llesiant pobl Cymru - gyda Chydffederasiwn GIG Cymru yn ei bedwaredd flwyddyn. Mae’n fodd i weithio'n strategol a chymryd camau breision ymlaen.
Drwy ein harian o’r Loteri Genedlaethol, rydym ni’n cefnogi sefydliadau celfyddydol, artistiaid, awdurdodau lleol a phartneriaid iechyd i gynnal mentrau a rhaglenni sy'n gwella bywyd cyfranogwyr a chleifion.
Mae’r gwaith yn cyrraedd rhai o'r bobl fwyaf bregus ac mae'n ffordd bwysig o gyrraedd ystod fwy amrywiol o bobl hefyd. Mae ein rhaglen yn cynnwys:
- helpu pob Bwrdd Iechyd yng Nghymru i gyflogi Cydlynydd arbenigol
- darparu ysgrifenyddiaeth i Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad Cenedlaethol ar y pwnc
- cynnig hyfforddiant a rhannu’r arfer orau drwy Hafan | Rhwydwaith Iechyd a Lles Celfyddydau Cymru (wahwn.cymru) Rhwydwaith
- cefnogi arloesedd drwy ein partneriaeth â’r Lab i brofi syniadau newydd i’w cynnal a'u tyfu - Celfyddydau ac Iechyd | Y Lab
- Cwtsh Diwylliannol – datblygu gwefan o adnoddau i gefnogi lles staff rheng flaen y GIG a gofal cymdeithasol wrth inni ddod allan o'r pandemig
- rhaglen waith ar y cyd ag Amgueddfa Cymru i rannu ac arddangos gwaith o'n casgliadau celf cenedlaethol mewn ysbytai maes ledled Cymru – Celf ar y Cyd | Amgueddfa Genedlaethol Cymru (amgueddfa.cymru)
- rhaglen cARTrefu gydag Age Cymru a Sefydliad Baring o osod artistiaid preswyl mewn cartrefi gofal
Credwn yng ngrym y celfyddydau i gyfrannu at ansawdd ein hiechyd a'n lles. Isod mae ein hadroddiad mapio a’n hastudiaethau achos sy'n dangos effaith y gwaith.
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch ni: ycelfyddydauaciechyd@celf.cymru