Y Moelwynion o Lan Ffestiniog (The Moelwyns from Llan Ffestiniog), 1912-13, olew ar banel
J.D. Innes (1887-1914)
Yale Center for British Art
Parth Cyhoeddus / Public Domain
Arsylwi Araf
Dyma wahoddiad i chi ymlacio wrth i ni eich arwain yn araf ac yn ystyrlon drwy fanylion darn o waith celf. Mae'n cymryd tua 5 munud, a gallwch wrando wrth eich desg, yn ystod egwyl, neu ar y trên ar y ffordd i'r gwaith. Felly bachwch baned, gwnewch eich hun yn gyfforddus, a dewch ar daith arsylwi araf gyda ni.
Yr artist
Ac yntau’n wreiddiol o Lanelli, bu’r artist James Dickson Innes yn astudio yn Ysgol Gelf Caerfyrddin rhwng 1904–05, cyn ennill ysgoloriaeth i astudio yn y Slade yn Llundain. Mae e’n adnabyddus heddiw fel paentiwr tirluniau mewn arddull Ôl-Argraffiadol, a mynyddoedd yr Arenig yng Nghymru oedd ei gartref ysbrydol. Roedd weithiau’n mynd ar deithiau paentio gyda’r artist Augustus John. Disgrifiodd John ei ffrind fel bardd-baentiwr – dyn tenau, gwelw, rhamantus, a fyddai’n troedio’r mynyddoedd am filltiroedd yn chwilio am yr olygfa berffaith i’w phaentio. Roedd bywyd Innes yn drasig o fyr. Roedd e’n dioddef o iechyd gwael, a bu farw o’r diciâu yn ddim ond 27 oed.
Y paentiad
Paentiodd Innes yr olygfa hon rywbryd rhwng 1912 a 1913. Y rhain oedd blynyddoedd mwyaf cynhyrchiol ei fywyd. Roedd Innes yn ymwybodol iawn o’r ffaith bod ei iechyd yn gwaethygu, ac yn ôl Augustus John roedd e’n cynhyrchu tua dau baentiad y dydd – wedi’i yrru, efallai, gan yr angen i geisio goresgyn ei salwch. Yn wreiddiol, credid mai mynyddoedd y Pyrenees oedd i’w gweld yn y llun, ond Y Moelwynion yw’r teitl bellach.
Arsylwi'n Araf ar gelf - Y Llythyr
Mae "Arsylwi'n Araf ar gelf" yn gyfres o ffilmiau gan Steph Roberts ar gyfer y Cwtsh Creadigol.
Gwefan: https://stephcelf.co.uk
Be' 'da chi'n meddwl?
Hoffwn glywed eich adborth.