Helo, fy enw i yw Cheryl. Ro’n i’n gerddor prif ffrwd ar hyd fy oes, nes i fi ddihuno’n sydyn 7 mlynedd yn ôl heb glyw, tinitws a hyperacusis.

Ro’n i’n falch iawn o allu creu gwaith ar gyfer y Cwtsh Creadigol oherwydd bod y GIG wedi bod mor bwysig i’m llesiant fy hun.

Mae gen i awdiolegydd gwych a 2 gymorth clyw anhygoel sydd wedi trawsnewid fy mywyd, nes i fi ddechrau meddwl, beth yw’r dechnoleg sy’n gwneud iddyn nhw weithio ac a allai fod y Celf ei hun?

O’r fan honno, fe wnes i ddechrau taith greadigol ddiddorol, drwy ail-bwrpasu technoleg cymhorthion clyw i gasglu biorhythmau naturiol byd natur, ac yna defnyddio’r darlleniadau gweledol hyn i gyfansoddi cerddoriaeth a chelf sain sy’n cynrychioli llais byd natur ei hun.

Efallai y gwnewch chi feddwl … sain gweledol? Sut allwch chi weld sain? Wel, rydyn ni’n gweld sain drwy’r amser, yn enwedig yn y GIG, er enghraifft, monitorau’r galon sy’n eich caniatáu i weld sain y galon.

Rydw i wedi creu 2 ffilm; un sy’n egluro, gan annog y gwyliwr i agor eu profiad synhwyraidd o fyd natur, sy’n dangos sut rydw i’n dechrau fy mhroses Celf Sain Amgylcheddol. Mae’r 2il yn gydweithrediad gyda’r gwneuthurwr ffilmiau ifanc, Jarro Wimbush o Manjaro Media.

 

Ffilm 1 – Tonnau Ogofau

Gwisgwch yn gynnes a dewch gyda fi i’r traeth yn Llanelli. Cawn weld sut i weithio gyda’r amgylchedd ei hun wrth lywio’r elfennau, a dysgwch sut i wneud eich recordiadau eich hun o fewn y byd naturiol.

 

Ffilm 2 – Porthladdoedd Symudol

Gwrandewch ar synau natur a hedfanwch gyda haid o wylanod ar draws y tonnau ar draeth Llanelli.

Teithiwch ar hyd yr hen harbwr, ond sydd bellach wedi symud ar hyd y lan.

Mwynhewch y goleudy ym Mhorth Tywyn gyda golygfa oddi uchod, gan rasio ar draws tywod traeth Pen-bre ar fore oer o Ragfyr, tra’n gwrando ar gerddoriaeth a gyfansoddwyd o fiorhythmau morol ein harfordir.

 

Am fwy o fanylion am fy ngwaith, mae croeso i chi ymweld â www.cherylbeer.com

Math:
Ffurf : Ymlacio
cyfranogwyr:
Unigol
Adnodd gan:

Cheryl Beer.