Helo! Georgia Ruth sy’ ma. Dwi’n gerddor ac yn ddarlledwr o Aberystwyth, a dwi wedi bod yn sgwennu caneuon ers bo fi tua 6 mlwydd oed.
Mae ‘na lot o ddirgelwch yn perthyn i’r syniad o sgwennu caneuon. Ond dwi’n eiddgar i ddangos ei fod yn broses syml a greddfol, sy’n dod a llawer o bleser a chysur, a bod sgwennu cân yn rhywbeth y gall urhywun wneud, o’ch stafell fyw.
Byddaf yn dangos - yn gyntaf - sut i fynd o gwmpas sgwennu’r geiriau, neu’r lyrics. Does dim ffordd cywir o wneud hyn, dim ond tiwnio fewn i’r foment presennol a gofyn – sut dwi’n teimlo nawr? A chwarae, digon o chwarae hefo geiriau!
Nesaf, byddwn yn ffeindio’r melodi sy’n ffitio’r geiriau. Eto, hoffwn ddangos bod hyn yn rywbeth greddfol a hwyl y gall unrhywun wneud, hyd yn oed os nad ydych yn canu llawer.
Yn olaf (ac mae’r rhan yma’n gwbwl opsiynol) wna’i ddangos gwahanol ffyrdd o gyfeilio’r gân, a sut gall gwahanol bethau newid naws a thon eich cân.
Felly, dewch i ddarganfod y syniadau sydd ynddoch chi nawr – falle gewch chi eich synnu!
Georgia Ruth / Dafydd Hughes
Be' 'da chi'n meddwl?
Hoffwn glywed eich adborth.