Helo. Abi Makepeace ydw i. Artist â chefndir mewn Ffilm, Ffotograffiaeth a Chelfyddydau Cymunedol.
Yn 2020, yn gaeth i’r tŷ yn ystod cyfnod clo y coronafeirws, dechreuais weithio gyda thecstilau — drwy ddefnyddio gwastraff bwyd o’r gegin i liwio ffabrig i’w droi’n ddillad, carthenni ac eitemau eraill. Fe wnes i ddarganfod bod gweithio gyda brethyn yn fyfyriol tu hwnt, a llwyddodd i dawelu fy meddwl a'm corff, yn ystod y cyfnod rhyfedd ac ansicr hwnnw.
Rydw i bellach yn rhedeg gweithdai iechyd a lles i blant, grwpiau cymunedol ac oedolion sy’n agored i niwed, gan rannu hud ac alcemi fforio planhigion a’u defnyddio; gwreiddiau, rhisgl ac aeron er mwyn tynnu lliw a brethyn wedi’i liwio i'w troi’n bethau.
Gobeithio y gwnewch chi fwynhau’r tiwtorial byr, syml yma, sy’n defnyddio deunyddiau y gallwch ddod o hyd iddyn nhw yn eich cartref a’ch amgylchedd naturiol, i greu gwrthrychau tecstilau hardd, sydd wedi'u lliwio'n fotanegol ac sy’n ymarferol.
I ddysgu mwy am fy ngwaith cymunedol gyda thecstilau yn Stiwdio Makepeace, ewch i. (https://www.instagram.com/makepeacestudio/)
Ffilm 1 - Cyflwyniad i mi a fy nghrefft
Ffilm 2 - Cynfas ‘Shibori' wedi’i lliwio
Shibori yw’r broses draddodiadol o blygu a rhwymo ffabrig i greu rhannau ‘gwrthsefyll’ lle na all y lliw ymdreiddio i greu patrymau ailadroddus hyfryd.
Rydw i’n defnyddio croen winwns yn y tiwtorial yma, y gellir eu defnyddio o'r bin compost, i greu lliw oren / brown hyfryd. Mae hen gynfas yn ddelfrydol i’w defnyddio ar gyfer y broses hon. Gwnewch yn siŵr ei fod yn gotwm 100% oherwydd ni fydd poly-cotwm yn amsugno’r lliw.
Ffilm 3 - Napcynau ‘Sypyn’ wedi’u Lliwio
Lliwio Sypyn yw’r broses o lapio deunydd planhigion mewn brethyn a’u stemio er mwyn tynnu’r lliw. Cafodd ei datblygu gan yr artist India Flint.
Yn y fideo hwn, rydw i’n defnyddio cynhwysion planhigion a geir yn y gegin a phlanhigion y gellir eu fforio yn eich amgylchedd lleol.
Bydd angen i chi gael cotwm 100%, lliain neu ffabrig naturiol arall fel cywarch neu ddanadl.
Ffilm 4 - Cas Gobennydd ‘Hapazome’
Techneg gwneud printiau hynafol o Japan yw ‘Hapazome’ sy’n golygu curo deunydd planhigion yn syth i bapur neu frethyn, i greu canlyniadau rhyfeddol o fanwl.
Yn y tiwtorial yma, rydw i’n defnyddio blodau a dail sydd wedi’u casglu o’r ardd a’r perthi a chas gobennydd cotwm gwyn. Bydd angen i chi hefyd gael morthwyl ac arwyneb caled. Mae bwrdd torri pren yn gweithio’n dda.
Be' 'da chi'n meddwl?
Hoffwn glywed eich adborth.