Weithiau, ‘da ni angen pethau bychain. 

Manon ydw i. Dwi’n byw yn Nhywyn efo fy mhlant, a dwi’n sgwennu llyfrau a sgriptiau. 

Mi wnes i siarad efo pobol sy’n gweithio ym maesydd iechyd a gofal am eu bywydau nhw - Be’ sy’n anodd a be’ sy’n hawdd, be’ sy’n dod â llawennydd iddyn nhw a be’ sy’n dod â chysur. Be’ sy’n dod â nhw at eu coed ar ddiwedd y dydd.

Mi wnes i recordio’r fideos a’r miwsig yma ar ôl y sgyrsiau yna, a chael fy ysbrydoli i sgwennu’r monologau byrion ‘ma hefyd. 

Dim ond pethau bychain sydd yn y fideos yma, ond weithiau, ‘da ni angen pethau bychain. 

 

Math: Llên
Ffurf : Ymlacio
cyfranogwyr:
Unigol
Adnodd gan:

Manon Steffan Ros