Helo! Fy enw i yw Lucy Dickson, ac rwy’n artist a chynllunydd serameg sy’n byw yng Nghaerdydd.

Rwy’n angerddol am y dylanwad positif y gall creadigrwydd ei gael ar ein bywydau, ac yn bersonol, mae hynny’n golygu gwneud pethau gyda fy nwylo.

Rydw i wrth fy modd yn rhannu prosesau sy'n hygyrch, yn hwyl ac yn llonyddu.

Yn y sesiynau hyn, gadewch i fi eich tywys drwy rai technegau crochenwaith syml, a bydd angen rhai deunyddiau arnoch y dylech chi allu dod o hyd iddyn nhw o gwmpas y tŷ gan fwyaf.

Rwy'n argymell dilyn y sesiynau tiwtorial hyn mewn man tawel, gydag amser i ymlacio a mwynhau'r broses.

 

Deunyddiau

Fideo Un: Ffiol Blagur

  • Clai sy’n caledu yn yr aer      
  • Brwsh paent
  • Cyllell
  • Sbwng
  • Dŵr
  • Cerdyn (rhywbeth fel hen gerdyn teyrngarwch)

Fideo Dau: Bowlen dorchog

  • Clai sy’n caledu yn yr aer      
  • Brwsh Paent
  • Bowlen
  • Tywel papur
  • Sbwng
  • Dŵr

Fideo Tri: Potyn Print Deilen

  • Clai sy’n caledu yn yr aer      
  • Brwsh paent
  • Tiwb
  • Cyllell
  • Rholbren
  • Pren mesur
  • Dail/coesau planhigyn
  • Papur newydd
  • Sbwng
  • Dŵr
  • Cerdyn (rhywbeth fel hen gerdyn teyrngarwch)

Cofiwch: Nid yw clai sy’n caledu yn yr aer yn addas i ddal hylifau

 

Ffilmiwyd gan:Clear The Fog

Math: Crefft
Ffurf : Creu
cyfranogwyr:
Unigol
Adnodd gan:

Artist: Lucy Dickson

Ffilm: Clear The Fog