“Ffordd wych o ddatblygu eich llygad creadigol.”

Sarah Featherstone ydw i ac rwy’n artist ac yn awdur. Hyfforddais fel nyrs yng Nghaerdydd yn y nawdegau, a gweithiais yn Rookwood ac Ysbyty Athrofaol Cymru, ac yn ddiweddarach, fel nyrs ardal yng Ngheredigion. Erbyn hyn, rwy’n cynnal sesiynau llesiant creadigol yn y gymuned sy’n cyfuno creu printiau, paentio ac ysgrifennu creadigol.

Hoffwn rannu gyda chi sut i wneud Straeon Lluniau, ffordd wych o ddatblygu eich llygad creadigol a phroses a allai ddod yn rhan o'ch trefn bob dydd yn ddigon hawdd. Byddwch yn datblygu cyfres ddiddorol o waith yn gyflym y gellir ei rannu â ffrindiau a theulu. Mae straeon lluniau yn ddelfrydol i’w rhoi ar eich cyfrif Facebook neu Instagram os oes gennych un, neu os nad oes, maen nhw’n gofrodd gwych o rywbeth sydd wedi’ch ysbrydoli chi fel delwedd, a thrwy ystyriaeth ddyfnach ohoni, i greu eich cerdd neu ddarn o ryddiaith.

Yn ystod y cyfnod clo, ar fy nheithiau cerdded dyddiol, dechreuais gymryd lot o luniau ar fy ffôn – lluniau o bethau yn fy ardal leol nad oeddwn wedi sylwi arnyn nhw o'r blaen. Fe helpodd i dynnu fy meddwl oddi ar feddyliau pryderus neu ailadroddus a dod â fy sylw nôl i’r presennol. Oherwydd bod gen i fwy o amser i sylwi, des i’n fwy chwilfrydig, gan arafu i edrych ar fanylion y byddwn wedi'u colli o'r blaen.

Yn raddol, fe ddatblygais gasgliad o ddelweddau diddorol ar ôl bod yn cerdded, a sylweddolais eu bod yn berffaith ar gyfer creu straeon neu gerddi byrion. Rhoddais her i fi fy hun – i ysgrifennu cerdd i gyd-fynd â’m hoff luniau ar ffurf tair llinell y Haiku Japaneaidd. Yna byddwn yn ychwanegu’r gerdd at fy nelwedd mewn blwch testun a’i llwytho i’m blog neu gyfrif Instagram fel cofnod o’m diwrnodau.

Gobeithio y cewch eich ysbrydoli i roi cynnig ar greu straeon lluniau. Os ydych chi'n llwytho eich straeon lluniau ar Instagram, ystyriwch ychwanegu'r hashnod #CwtshCreadigol - byddai’n wych rhannu a chael ein hysbrydoli gan waith ein gilydd.

Sarah Featherstone

www.sarahjfeatherstone.com

Math: Celf
Ffurf : Creu
cyfranogwyr:
Grŵp
Unigol
Offer angenrheidiol: Ffôn clyfar neu gamera, pen a phapur
Adnodd gan:

Sarah Featherstone