Helo! Fy enw i yw Leo Nicholson, ac rwy’n animeiddiwr ac yn wneuthurwr ffilmiau sy’n byw yn Ne Cymru. Gan fwyaf, mae fy nghefndir wedi bod fel animeiddiwr stop-symud ar gyfresi teledu a ffilmiau nodwedd.
Yn y fideos hyn, rwy’n rhannu sut i ddechrau gyda dwy dechneg animeiddio draddodiadol; ‘Paper cut-out’ a Stop-symud.
Rwy'n argymell i chi ddechrau drwy ddilyn y fideos Dechrau Arni er mwyn cael y mwyaf o’r 2 fideo animeiddio.
Rydw i wedi cadw at y pethau pwysicaf yn unig, ond gallwch ehangu ac archwilio unrhyw faes os ydych chi eisiau dysgu mwy.
Mae llawer o fanylion yma, felly gwnewch ddefnydd da o'r botwm oedi a pheidiwch â theimlo bod rhaid i chi ruthro drwyddo!
Mwynhewch y dysgu, yr arbrofi a’r arloesi.
Leo
Be' 'da chi'n meddwl?
Hoffwn glywed eich adborth.