Helo, Zi Hong Mok ydw i, darlithydd fferylliaeth, fferyllydd, ymchwilydd nano-feddygaeth a dawnsiwr.

Y pedwar fideo dawns rydw i’n eu cyfrannu at adnodd lles y Cwtsh Creadigol yw:

  1. “Ein GIG yn 75 oed” i ddathlu gweithwyr y GIG a gofal cymdeithasol sy’n ymroddedig ac yn anhunanol,
  2. “Ti’n iawn?” i annog pobl, yn enwedig dynion, i godi llais am eu hiechyd meddwl,
  3. “Yma i’ch cefnogi” i dynnu sylw at bwysigrwydd cyfeillgarwch a chefnogaeth gan gymheiriaid,
  4. “Cymerwch Seibiant” i ysgogi cydweithwyr fferyllol i ganfod llawenydd yn eu gwaith.

Gobeithio y byddan nhw’n eich ysbrydoli mewn rhyw ffordd neu'i gilydd i flaenoriaethu eich iechyd a’ch lles meddyliol, i gymryd rhywfaint o amser i ymdawelu, i ddatgloi eich creadigrwydd a dod o hyd i gysur, ymlacio neu hwyl drwy ddawns.

Rhowch wybod i fi beth yw eich barn! Gallwch gysylltu ar fy Instagram (@mok_matters). Diolch.

 

Ein GIG yn 75 oed | Our NHS at 75

Mae’r GIG yn 75 oed eleni. Mae fy nheulu a finnau wedi cael ein trin gan staff anhygoel y GIG yn y gorffennol. I fod yn gwasanaethu’r GIG nawr, mae’n wych cael y cyfle i ddathlu’r garreg filltir hon gyda digwyddiad dawnsio “Ein GIG yn 75 oed” yn y Fujifilm House of Photography.

Wedi’i sefydlu gan yr Aelod Seneddol o Gymru, Aneurin Bevan, ar 5 Gorffennaf 1948, y GIG oedd y system iechyd cyffredinol cyntaf i fod ar gael am ddim i bawb adeg ei ddarparu. Gweithlu’r GIG yw’r un mwyaf amrywiol ym Mhrydain, gyda phedwar o bob deg staff clinigol yn dod o gefndiroedd ethnig gweladwy, ac rwy’n falch iawn i fod yn un ohonyn nhw.

Y coreograffi a’r dawnsio gan Damien Anyasi (@the_tda) a finnau (@mok_matters)

Mae Damien yn ffrind agos i fi, a ddechreuodd fel fy athro dawns hip hop yn 2013. Bu’n Athro Dawns y Flwyddyn yn y DU (2014), perfformiodd yng Ngwobrau’r Brits a thaith London’s Big Dance Bus ac yn goreograffydd ar gyfer y National Theatre a seremoni agoriadol Gemau Olympaidd Llundain 2012. Mae ganddo wastad rywbeth i’w gynnig, pryd bynnag y byddwch chi’n ei weld.

Ymunwch â ni ar daith i ddathlu cyfraniadau pobl ar draws y gwasanaeth gyda lluniau o ymddiriedolaethau gwahanol y GIG.

Cerddoriaeth: Stone Cold gan Anthony Hamilton (@anthonyhamiltonofficial)
Ffilmiwyd gan Martin Mwaniki (@sycamoreseye)

 

 

Ti'n iawn? | You okay?

Y pandemig, unigrwydd, galar, biliau’n codi, argyfwng costau byw, diweithdra, salwch, anabledd, anhrefn, gwrthdaro, bwlio, anghyfiawnder, trawma, ansicrwydd, methiant ymddangosiadol, gorweithio, teimlo wedi'ch llethu… maen nhw i gyd yn arwain at straen, gorbryder, ac o bosib, iselder.

Ar unrhyw adeg, mae bron i 1 ymhob 6 o’r gweithlu yng Nghymru yn cael eu heffeithio gan broblem iechyd meddwl.  Mae hyn yr un peth â Lloegr mewn unrhyw wythnos benodol. Mae bod yn agored gyda ffrindiau neu deulu yn ein gwneud yn fwy gwydn yn wyneb sefyllfaoedd llawn straen. Peidiwch â bod yn swil i estyn allan, a gadewch i ni fod yn garedig i'n gilydd.

Y coreograffi a’r dawnsio gan Josh Denyer (@joshdenyer) a finnau (@mok_matters)

Mae Josh yn rhywun rydw i’n edrych i fyny ato, a oedd yn ddigon caredig i gynnig tocyn i fi ei wylio fel “Neleus” yn Mary Poppins yn y West End yn 2020. Roedd Josh arfer bod yn “Billy” yn sioe gerdd Billy Elliot – fy hoff sioe gerdd – yn Awstralia. Yn ddiweddar, aeth yn ei flaen i fod yn ddawnsiwr llwyddiannus yn Newsies yn Llundain.

Cofiwch, fel y dywedodd Lori Deschene, “Nid arwydd o wendid yw poen, ond mae ei oddef ar eich pen eich hun yn ddewis i dyfu’n wan”.

Cerddoriaeth: Start gan Hayden Calnin (@haydencalnin)
Ffilmiwyd gan Martin Mwaniki (@sycamoreseye)

 

Yma i’ch cefnogi | Got your back

Pan symudais i Gymru gyntaf, doedd gen i ddim ffrindiau yma. Ro’n i’n colli fy ffrindiau o Lundain a Malaysia. Mae’r pandemig yn gwneud pethau’n waeth. Diolch i negeseua gwib a galwadau fideo, rydw i’n gallu cadw mewn cysylltiad â nhw, gan deimlo eu bod wastad yma i’m cefnogi.

Fe wnaeth geiriau cyson o anogaeth, cadarnhad a sicrwydd gan ffrindiau fy helpu i ymdopi fel person mewnblyg sy’n byw ar ei ben ei hun. Fe wnes i weld eisiau fy ffrindiau a nawr rydw i’n gwerthfawrogi'n fwyfwy y siawns o gael cyfarfod.

Y coreograffi a’r dawnsio gan Angelika Napierała (@angentaa) a finnau (@mok_matters)

Mae Angelika wastad wedi bod yn gefn i fi. Fe wnaethon ni gwrdd fel dawnswyr yn Manifest Nation yn 2017 ac rydyn ni wedi dawnsio gyda’n gilydd am flynyddoedd ers hynny — gan gynnwys yn y National Theatre— ac mae'n wych ei gweld yn symud ymlaen i fod yn gyfarwyddwraig symud. Dydyn ni ddim yn gweld ein gilydd yn aml nawr, ond rydyn ni wastad yn rhannu ein breuddwydion, yn dal ein gilydd yn atebol, ac yn gwthio ein gilydd y tu hwnt i’r hyn sy’n gyfforddus i ni.

Mae gwir ffrind wir eisiau'r gorau i chi.

Cerddoriaeth: Alone (@toddlat remix) gan Jessie Ware (@jessiware)
Ffilmiwyd gan Martin Mwaniki (@sycamoreseye)

 

Cymerwch seibiant | Take a chill pill

Mae gennym ni i gyd sawl rôl mewn bywyd: swyddi llawn amser /rhan amser, prysurdeb y tu allan i’r gwaith, addysg, bod yn briod, rhiant, mab/merch, gofalwr, gwirfoddolwr … gyda gwahanol ddisgwyliadau a phwysau ym mhob rôl.

Rydyn ni’n aml yn ymroi gormod i'n swyddi, yn cael ein llethu gan lwyth gwaith ac yn teimlo ein bod ni wedi'n datgysylltu oddi wrth ein diddordebau. Rydw i’n cyfaddef hynny, fel y gwelwch yn y fideo hwn. Mae’n ffordd o’n hatgoffa i gymryd peth amser i ffwrdd, i droi oddi wrth bwysau bob dydd ac i fynd ar ôl rhywbeth rydych chi'n uniaethu’n ddwfn ag ef.

Y coreograffi a’r dawnsio gan Kieran Lai (@kieranlai.official) a finnau (@mok_matters)

Mae Kieran, fel finnau, o dras Dwyrain Asia. Ymddangosodd ar Britain’s Got Talent, nifer o hysbysebion rhyngwladol a “& Juliet”, sioe gerdd y West End. ‘Freestyler’ dawns stryd yw Kieran. Mae gwylio ei arddulliau dawnsio rhithiol yn fy syfrdanu. Diolch Kieran am fy ysbrydoli wrth gynrychioli pobl Asiaidd yng nghelfyddydau’r DU.

Gobeithio y bydd y fideo hwn yn eich ysbrydoli i fynd ar drywydd yr hyn rydych yn angerddol amdano yng nghanol prysurdeb bywyd.

Cerddoriaeth: We were in love gan Ta-ku (@takubeats)
Ffilmiwyd gan Martin Mwaniki (@sycamoreseye)

 

Math: Dawns
Ffurf : Symud
cyfranogwyr:
Grŵp
Unigol
Adnodd gan:

Dawnswyr / Coreograffi: Zi Hong Mok | Damien Anyasi | Josh Denyer  | Angelika Napierała | Kieran Lai

Ffilm: Martin Mwaniki