Helo, fy new i yw Marian Haf dwi’n brintwraig o Geredigion yn gweithio gyda collagraphs yn bennaf.
Yn y gyfres o fideos byr yma rwy’n mynd i dywys chi drwy sut i argraffu gyda pecynnu, gweithgaredd rwy’n hoffi wneud gyda’r plant ac ma Gruff y mab wedi dod i’m helpu.
Ma argraffu yn broses lyfli - ma yna ddechrau, canol a diwedd iddo.
Hoffen i chi fwynhau’r broses a cymryd yr amser i fod yn
bresennol a mwynhau’r creu yn hytrach na poeni gormod am y darn gorffenedig.
Mae hefyd fideo yn dilyn yn dangos sut i argraffu gyda dail, gweithgaredd lyfli i’w wneud ar ol bod am dro.
Mwynhewch y broses a’r chwarae
Marian Haf
Instagram: @marianhaf
Be' 'da chi'n meddwl?
Hoffwn glywed eich adborth.