Ydych chi eisiau Cwtsh Creadigol?
Mae gwefan y Cwtsh Creadigol bellach ar waith! Mae pethau newydd arno’n rheolaidd.
Allwch chi ein helpu i ledaenu'r gair i holl staff Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru?
Dyma'r wybodaeth a'r dolenni ichi eu dosbarthu yn enwedig i’r rhai ym maes lles y staff.
Lawrlwythwch Pecyn Cyfathrebu Y Cwtsh Creadigol i helpu ni i ledaenu’r gair am y Cwtsh Creadigol.
Allwch chi wneud y canlynol?
- Rhoi cyhoeddusrwydd i'r ddolen we a’r wybodaeth drosodd 'Ydych chi eisiau Cwtsh Creadigol?' drwy eich mewnrwyd/gwefan/fforymau /rhwydwaith - https://cwtshcreadigol.cymru
- lawrlwytho, argraffu a rhannu poster a deunydd hyrwyddo y Cwtsh Creadigol isod.
- Rhannu fideo hyrwyddo y Cwtsh Creadigol
- Lawrlwythwch Arbedwyr Sgrin y Cwtsh Creadigol
- Trydar neu bostio am y Cwtsh Creadigol ar y cyfryngau cymdeithasol
- Dilynwch ni ar Drydar: @Arts_Wales ac ail-drydar ein cynnig.
Dyma ragor o wybodaeth am y Cwtsh Creadigol.
Diolch yn fawr am eich cefnogaeth. Rhowch adborth inni ( cwtshcreadigol@celf.cymru ) am ffyrdd o wella'r Cwtsh Creadigol.
Sally Lewis, Rheolwr Rhaglen y Celfyddydau, Iechyd a Lles - Cyngor Celfyddydau Cymru.
Aled Jones, Rheolwr Prosiect – Cwtsh Creadigol, Cyngor Celfyddydau Cymru.