Helo, Karen ydw i, artist tecstilau sy’n gweithio ar ffin ddwyreiniol Caerdydd, lle mae’r ddinas yn cwrdd â gwastadeddau Gwent.

Cefais fy ngeni i greu! Wedi fy ysbrydoli gan fy rhieni i fod yn greadigol ac i drwsio pethau, rydw i wedi bod yn creu crefftau a phwytho cyhyd ag y gallaf gofio.

Ochr yn ochr â gyrfa broffesiynol, rydw i wedi astudio nifer o ddisgyblaethau creadigol ac wedi dod yn athrawes er mwyn fy ngalluogi i ysbrydoli eraill.

Rwy’n angerddol am werth creadigrwydd wrth hyrwyddo lles. P'un ai ar ein pennau ein hunain neu yng nghwmni eraill, wrth i'n dwylo ymgysylltu a'n meddyliau ganolbwyntio ar fwynhau gwneud rhywbeth hardd/defnyddiol, rydyn ni'n ymgolli ac ymlacio.

 

Fideo 1: Sgets-gerdded

Bydd y fideo hwn yn eich cyflwyno i sgets-gerdded. O greu llyfr braslunio concertina sy’n costio nesa peth i ddim, bydd yn dangos i chi sut i'w ddefnyddio i roi’r atgofion ar gof a chadw wrth fynd am dro.

Wedi'i wneud o bost a phecynnau diangen, gallwch roi’r llyfr llawn cymeriad yn eich poced neu fag ynghyd ag ambell ben ysgrifennu, pensiliau neu baent i'ch galluogi i oedi, i arsylwi ar bethau'n ofalus a'u cofnodi.

Gall eich brasluniau cyflym o beth bynnag sy'n dal eich llygad - deilen, cerrig mân, blodyn, pen hedyn, lliwiau, gweadau, siapiau, neu batrymau - fod yn atgof, neu gellir eu defnyddio fel ysbrydoliaeth ar gyfer gwaith creadigol arall.

 

Fideo 2: Tecstilau celf

Mae’r ail fideo yn eich cyflwyno i decstilau celf drwy ddangos i chi sut i ddefnyddio nodwydd ac edau ac ychydig ddarnau o ddefnydd i drawsnewid eich llun yn waith celf tecstilau bach. Dangosir i chi sut i drosglwyddo eich cynllun i ddefnydd, defnyddio cylch brodwaith, hollti edafedd, rhoi edau trwy nodwydd, clymu cwlwm a chreu ambell bwyth brodwaith i ddechreuwyr.

Mae'r broses, yn enwedig wrth ddefnyddio'ch cynllun eich hun, yn faddeugar ac yn cynnig rhyddid. Efallai y byddwch am ddysgu mwy o bwythau a thechnegau fel applique neu frodwaith peiriant i'ch galluogi i fynd i'r afael â phrosiectau tecstilau celf mwy anturus.

 

Ynglŷn â Karen O’Shea

Fel myfyriwr hŷn, graddiais mewn Celf a Chrefft a derbyniais Dystysgrif Addysg Ôl-raddedig. Rydw i bellach yn dysgu tecstilau celf, gwaith pwytho

ac amrywiaeth eang o grefftau cyfryngau cymysg i bobl o bob oed a gallu. Rydw i’n ceisio gweithio mor gynaliadwy â phosib, ac rydw i wrth fy modd yn cysylltu â byd natur drwy fy ngwaith.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy, gallwch fy nilyn ar y cyfryngau cymdeithasol (karenosheaart) neu ewch i’m gwefan am fanylion dosbarthiadau a gweithdai karenoshea.co.uk

 

Yn y cyfamser, mwynhewch sgets-gerdded a’r cyflwyniad i decstilau celf!