Mae gwaith weiren yn hawdd, yn rhad ac yn hwyl.

Helo, fy enw i yw Beth Sill. Rwy’n wneuthurwraig o Gymru sy’n arbenigo mewn gwaith weiren.

Fe ddatblygodd fy hoffter o weithio gyda weiren tra’n astudio celf safon uwch yn yr ysgol nos. Rydw i wrth fy modd yn creu gwaith celf, mae'n gwneud i fi ymlacio ac yn fy nhawelu. Mae gwaith weiren yn grefft gymharol anghyfarwydd ond mae'n hawdd, yn rhad ac yn hwyl.

 

Dyma 2 fideo er mwyn dangos i chi sut i wneud:

Weiren pili pala (10 munud o hyd a PDF yn amgaeedig)

Weiren gwas y neidr (10 munud o hyd a PDF yn amgaeedig)

 

2 fideo bach hefyd:

1.Y deunyddiau + offer fydd eu hangen arnoch chi (3mun)

2. Ychydig o ymarferion a fydd yn eich helpu i ymgyfarwyddo â defnyddio'r weiren. (3mun)

 

Deunyddiau ac offer fydd eu hangen arnoch chi:

  • Gefail & thorrwr  
  • Weiren 1mm
  • Weiren 1.2mm
  • Tâp mesur
  • Gleiniau a botymau

Bydd y fideos hyn yn rhoi amlinelliad o’r weiren a strwythur eich pryfed ac yna gallwch chi ychwanegu beth bynnag sy'n eich gwneud chi'n hapus! Gleiniau, botymau, rhubanau lliwgar. Pan fyddwch chi wedi gorffen gallwch chi eu harddangos gartref, yn yr ardd, efallai yn y gwaith neu yn yr ardd gymunedol yn y gwaith?

Gobeithio eich bod wedi mwynhau creu eich pryfed unigryw!

 

Ynglŷn â fi:

Rydw i wedi bod yn creu pethau ar hyd fy oes. Ar ôl cwblhau fy safon uwch mewn celf, rydw i wedi canolbwyntio ar waith weiren. Rwy'n mwynhau'r broses o greu cerfluniau. Mae’n rhoi boddhad ac mae’n gyffrous gweld y siâp yn ymddangos. Rwy'n gwneud cerfluniau, comisiynau unigryw yn ogystal â chynnal gweithdai.

@wiremakercardiff

Ffilm: Jonathan Dunn

Math: Crefft
Ffurf : Creu
cyfranogwyr:
Unigol
Offer angenrheidiol: Gefail a Thorwyr, Gwifren 1mm, Gwifren 1.2mm, Tâp Mesur, Gleiniau a Botymau.
Adnodd gan:

Beth Sill | Jonathan Dunn