Ambell dric am sut y gallwn ni helpu ein hunain gan Mererid Hopwood.

Pan fydd ein meddyliau ni’n llawn helbulon, a’r cyngor i geisio ‘gwagio’r meddwl’ yn amhosib o anodd ei ddilyn, beth am roi cynnig ar droi’r meddwl at rywbeth arall? Tynnu’r meddwl oddi ar helbulon y dydd drwy ganolbwyntio’n llwyr ar ryfeddod yr hen fyd sydd yn union o dan ein trwynau.

Mae’r tair ffilm fach hon yn ceisio rhannu ambell dric am sut y gallwn ni helpu ein hunain i ‘sylwi ar werth sylwi’ – edrych a gwrando’n astud nes ein bod ni’n gweld a chlywed pethau anghyfarwydd yn y cyfarwydd.

Gan adael i’r geiriau bach ‘fel’, ‘mor … â …’ ac ‘yn’ arwain at ambell linell neu bennill, gobeithio y bydd y darnau hyn yn gymorth i fwynhau pum munud fach o ddihangfa yn y rhyfeddod sydd o’n cwmpas.

Gyda diolch i Iwan Griffiths am y cydweithio.

Mererid

Math: Llên
Ffurf : Ysgrifennu
cyfranogwyr:
Unigol
Adnodd gan:

Mererid Hopwood