Helo, fy enw i yw Laura a rydw i wedi bod yn gweithio fel artist tecstilau wedi'u gwehyddu, gwneuthurwraig, addysgwraig a churadur ers 2003.

Rwy’n wirioneddol angerddol am rannu fy sgiliau ac wrth fy modd yn gweld eraill yn cael yr un boddhad â fi wrth greu tecstilau wedi'u gwehyddu. Mae nifer yn credu bod gwehyddu yn gelfyddyd rhy gymhleth ac anhygyrch i'r rhan fwyaf roi cynnig arni.

Serch hynny, gyda'r ffilm fer hon, rwy'n rhannu sut gall unrhyw un ddechrau gwehyddu’n hawdd gyda dim ond y deunyddiau symlaf.

Mae cerdded bob dydd yn hollbwysig ar gyfer fy iechyd a’m lles, ac wrth gerdded ar lan y môr, rydw i wrth fy modd yn casglu broc môr i wehyddu arno nôl yn fy stiwdio, a dyna rwy’n ei ddangos yn y prosiect hwn. Ar ôl cael fy magu ar arfordir Sir Benfro, rydw i wastad wedi cael fy ysbrydoli gan dirweddau arfordirol. O garu’r awyr agored i sylwi ar wead a phatrymau naturiol cain, mae’r cyfan yn cyfrannu at fy ngwaith.

Mae gwehyddu yn grefft hynod o ofalgar – allwch chi ddim rhuthro’r broses, ac mae’r pwyslais i raddau helaeth ar liw, gwead a rhinweddau llinellol.

Rydw i’n eich annog i droi at eich greddf wrth i chi wehyddu – canolbwyntiwch ar balet lliw sy’n eich plesio a dilynwch eich llif greddfol wrth i chi adeiladu eich tecstilau un rhes ar y tro.

Laura Thomas

https://www.laurathomas.co.uk/

Math: Crefft
Ffurf : Creu
cyfranogwyr:
Grŵp
Unigol
Offer angenrheidiol: Driftwood - preferably something flat and smooth, Scissors, Tapestry Needle, Wooden ‘kebab’ skewer, Pliers, Yarn, Masking Tape.
Adnodd gan:

Laura Thomas