‘Tiwniwch i mewn’ i’ch corff a ‘thiwniwch allan’ o fywyd bob dydd.

Helo! Fy enw i yw Thania Acarón ac rwy’n artist, therapydd symudiadau dawns a sylfaenydd The Body Hotel. 

Rwy’n gyffrous o fod yn cynnig ambell dasg ymarferol creadigol sy’n seiliedig ar symud, a all eich helpu i ddatblygu ymwybyddiaeth o’r corff, hyder ac i fyfyrio ar eich cymorth presennol.

Fel rhywun sy’n gweithio ym maes y celfyddydau, iechyd meddwl ac addysg uwch, rwy’n gallu uniaethu â sut, fel gweithwyr gofal proffesiynol, rydyn ni’n aml yn rhoi pobl eraill yn gyntaf, a gall gofalu am ein hunain fod yn heriol gyda’n hamserlen brysur.

Y syniad y tu ôl i’r gyfres o fideos yw tiwnio i mewn i’ch corff a thiwnio allan o fywyd bob dydd, hyd yn oed am ychydig funudau! Gall yr ymarferion hyn gael eu gwneud mewn unrhyw fath o ofod, a sut rydych chi'n teimlo'n fwyaf cyfforddus.

Rwy'n cynnig dwy brif dasg:
1) cadw golwg ar eich corff cyfan a 2) myfyrio ar symudiad creadigol a fydd yn eich helpu i fywiogi neu ymlacio cyn, yn ystod neu ar ôl eich diwrnod prysur.

Does dim angen unrhyw brofiad symud ac mae’r gweithgareddau yn agored i bobl o bob gallu.

Yn yr ymarferion hyn, rwy'n defnyddio fy hyfforddiant fel therapydd symudiadau dawns a’m gwaith ym maes atal gorflinder ers nifer o flynyddoedd i gynnig syniadau cyflym, awgrymiadau a gweithgareddau byr i'ch cael chi i symud tra’n cefnogi eich llesiant (a chadw pethau’n ysgafn ac yn hwyliog).

Fel arfer, mae ein cyrff yn gwybod beth sy’n mynd ymlaen cyn i ni fod yn ymwybodol, ac mae symud yn allweddol i ddeall sut rydyn ni’n ymwneud ag eraill.

Efallai y bydd rhai pobl yn credu bod dawnsio ar gyfer ‘y theatr neu deledu’n unig’ ac hyd yn oed yn dweud ‘dydw i ddim yn dawnsio’ neu ‘mae gen i ddwy droed chwith’ – os ydych chi’n teimlo fel ‘na, gobeithio y bydd y fideos hyn yn newid eich meddwl!

Rydyn ni i gyd yn symudwyr, a thrwy symud, gallwn ni wir diwnio i mewn i'r hyn sy'n digwydd i ni a chael persbectif newydd.

Edrychwch ar rai o'r egwyddorion sylfaenol drwy fy nghyflwyniad, ac yna gallwch chi wneud un fideo ar y tro, neu'r tri os oes gennych chi fwy o amser.

Gallwch chi wastad oedi ac archwilio eich ffyrdd eich hun o symud. Does dim dilyniant penodol i'r fideos - gwiriwch a oes angen i chi  Fywiogi a/neu Ymlacio, a bant â chi!

Thania Acarón, sylfaenydd The Body Hotel

 

 

Math: Dawns
Ffurf : Symud
cyfranogwyr:
Grŵp
Unigol