Amdanom
Dyma wefan o adnoddau creadigol i gefnogi lles staff GIG a gofal cymdeithasol Cymru.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gweithio gyda phartneriaid celfyddydol, Cydffederasiwn GIG Cymru, Byrddau Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru i gefnogi lles ein staff gofal iechyd drwy weithgareddau creadigol wrth ddychmygu dyfodol ar ôl y pandemig.
Fel arfer, cleifion yw ein ffocws ond mae gofalwyr hefyd yn elwa’n fawr o’n gwaith celfyddydau ac iechyd. Mae'r Cwtsh Creadigol yn gasgliad o adnoddau ar-lein gan artistiaid i gefnogi staff gofal iechyd dan bwysau’r pandemig.
Mae'n cynnig dull gwahanol o gefnogi lles ac ychwanegu at y pecyn adnoddau y mae Gwella Addysg Iechyd Cymru yn ei ddatblygu i gefnogi ein staff.
Y Cyngor yw'r corff sy’n datblygu ac ariannu celfyddydau Cymru. Rydym ni’n angerddol am rym y celfyddydau i gyfrannu at safon ein bywyd. Maent yn gwella ein hiechyd a'n lles, ein cysylltiad ag eraill a’n pleser mewn bywyd. Rydym ni’n cydweithio'n agos â phartneriaid iechyd ar raglen y Celfyddydau ac Iechyd i wneud gwahaniaeth i iechyd a lles pobl.
celf.cymru