Helo, Gilly Booth ydw i, artist sy’n gweithio gyda delweddau symudol, sain a gosodweithiau.

Ar ôl cael fy magu ym Maenorbŷr, pentref ar lwybr yr arfordir, rydw i wastad wedi cael fy nenu at agweddau myfyriol yr arfordir, boed hynny’n fforio am wymon neu’n gerdded ar hyd yr arfordir.

Gobeithio y bydd y fideos hyn yn eich ysbrydoli i ymweld ag arfordir Sir Benfro i fforio, coginio a myfyrio.

 

Rhan 1 - Fforio

Mae’r ffilm hon yn dilyn y cogydd a’r fforiwr adnabyddus Matt Powell wrth iddo chwilio am wymon bwytadwy a phlanhigion ymyl y traeth o amgylch arfordir Sir Benfro.

Yn y pellter, gellir gweld y cwt gwymon, a ddefnyddiwyd yn y gorffennol i sychu’r gwymon.

Mae Matt yn disgrifio sut i adnabod a thorri gwymon/ phlanhigion ymyl y traeth gan adael gludafael neu holdfast i ganiatáu twf pellach.

Mae’n defnyddio ei gyfoeth o wybodaeth am fforio i greu prydau ysbrydoledig i’w gweini yn ei fwyty ‘Annwn’ yn Arberth.

 

Rhan 2 - Coginio

Creodd Matt y pum rysáit hyn yn arbennig ar gyfer y prosiect hwn – prydau sy’n seiliedig ar wymon wedi’i fforio a phlanhigion ymyl y traeth, sy’n cynnwys nifer o fitaminau a maetholion sy’n cael eu disgrifio fel bwydydd daionus neu ‘superfoods’.

Mae Matt yn artist yn y gegin, ac yn dangos sut i baratoi a chyflwyno'r seigiau. Mae'r pryd gorffenedig, sy'n edrych yn gymhleth, yn syml i'w baratoi mewn gwirionedd.

Gallwch goginio'r holl seigiau a'u bwyta gyda'i gilydd neu eu creu’n unigol. Os nad yw’r arfordir yn agos, gallwch brynu’r cynhwysion.

BWYDLEN:

  • finegr gwymon

  • gwymon wedi’i biclo

  • cawl gwymon (dashi) gyda bara lawr

  • planhigion ymyl y traeth gyda finegr gwymon

  • betys mewn dresin gwymon

Gellir lawrlwytho’r ryseitiau fan hyn fel pdf.

Rhan 3 – Myfyrio

Mae’r ffilm hon yn cofnodi cylchdro 360 gradd o arfordir Sir Benfro o’r ‘olygfa’ ar oleudy Pen-caer.

Golygwyd y ffilm i gyd-fynd â rhythm pelydrau’r goleudy - 4 fflach bob 16 eiliad, sy'n arbennig i’r goleudy hwn. 

Gobeithio y bydd y ffilm hon yn cynnig profiad hypnotig, tawel sy’n weledol gyfoethog.

 

Matt Powell: https://www.annwnrestaurant.co.uk/

Gilly Booth: www.gillybooth.com

 

Math:
Ffurf : Ymlacio
cyfranogwyr:
Unigol
Adnodd gan:

Gilly BoothMatt Powell