Helo, Gemma ydw i. Rwy’n artist crefftau o Gaerdydd.
Fe ddysgais sut i grosio yn fy nhridegau hwyr, ac erbyn hyn, dydw i ddim yn gwybod sut ro’n i’n llenwi fy amser sbâr cyn hynny. Mae wedi dod yn rhan hanfodol o fy llesiant heb anghofio fy nghi hyfryd, Gwen.
Bydd y tri fideo crosio canlynol yn eich helpu i ddysgu’r hanfodion ac i ddechrau ar eich siwrnai crosio.
Fideo 1: Dysgwch yr hanfodion a dechreuwch eich siwrnai crosio
Bydd y fideo hwn yn eich tywys drwy'r broses o grosio. Dangosir i chi sut i ddal eich bachyn a’ch edafedd, sut i greu cwlwm dolen, sut i adeiladu cadwyn ac yna arddangosfa fanwl o'r pwyth crosio mwyaf cyffredin – y ‘Crosio Dwbl'.
Mae'r fideo yn cynnwys cyngor i’r rheini sy’n crosio â’u llaw chwith ac yn cynnig digonedd o awgrymiadau da er mwyn parhau i grosio gydag hyder.
Fideo 2: Crëwch Gap Tebot
Mae’r fideo hwn yn datblygu eich sgiliau crosio er mwyn i chi allu creu cap tebot. Mae’n eich cyflwyno i’m hoff bwyth crosio - 'Crosio Hanner Trebl’.
Byddwch yn cael eich tywys drwy bob cam o'r broses yn y prosiect hwn sy'n creu anrhegion gwych ond sydd hefyd yn cynnig nifer o gyfleoedd i droi corneli sy'n aml yn cael ei ystyried yn eithaf anodd wrth ddysgu sut i grosio. Ond unwaith y byddwch chi wedi meistroli cwpl o rwymynnau ar gyfer y pen, byddwch yn barod i ddechau unrhyw brosiect crosio, a byddaf yn rhoi cyngor ar brosiectau rydw i’n argymell i chi roi cynnig arnyn nhw nesaf.
Fideo 3: Creu Sgwariau Nain/Mam-gu
Mae Sgwariau Nain/Mam-gu yn boblogaidd unwaith eto, ac yn cael eu defnyddio i greu addurniadau i’r cartref a dillad hardd a lliwgar. Mae'r broses yn eithaf syml ar ôl i chi ddechrau, a byddaf yn eich dysgu drwy ddefnyddio patrwm pictogram sydd wir yn gwneud y broses yn llawer haws i'w dilyn a bydd yna ddigon o sgôp i chi ar gyfer pictogramau eraill y gallwch eu dilyn.
Bydd y fideo hwn yn cwmpasu sut i newid lliwiau, sut i flocio a rhoi’ch sgwariau at ei gilydd, ac i gloi, fe fyddai’n rhannu ffyrdd posibl o osod eich sgwariau.
Ynglŷn â Gemma Forde
Astudiais Dylunio Cynnyrch cyn hyfforddi i fod yn athrawes Dylunio a Thechnoleg. Treuliais y rhan fwyaf o’m gyrfa yn dysgu yn Asia a rhoddodd hynny'r ysbrydoliaeth i fi ddychwelyd i'm ardal enedigol, Caerdydd, i sefydlu busnes gweithdai crefft.
Rydw i wrth fy modd gyda llu o grefftau, ond yn arbennig, gallu defnyddio fy mhrofiad dysgu i annog eraill i droi eu llaw at hobïau eraill.
Be' 'da chi'n meddwl?
Hoffwn glywed eich adborth.