Dathlwch eich creadigrwydd!

Ar ôl gweithio gyda grwpiau amrywiol sy’n gysylltiedig â’r GIG ac mewn lleoliadau gofal cymdeithasol, rwy’n gwerthfawrogi cyn lleied o amser ymlacio di-straen sydd ar gael.

Rwy'n gobeithio, wrth rannu’r fideos, y byddwch yn rhoi caniatâd i’ch hunain ymgysylltu'n weithredol â’ch lles, cymryd amser allan o bwysau presennol y byd, a mwynhau!

Gobeithiaf y bydd fy nghyfraniadau yn gwneud ichi wenu, codi eich hyder, a’ch helpu i ddathlu eich creadigrwydd!

Mae'r ffilm drymio Affricanaidd yn dathlu'r rhythm ym mhob un ohonom, ac mae’n dangos nad oes rhaid i chi gael drwm i allu dechrau drymio.

Dathlu’r cerddor ym mhob un ohonom mae'r ffilm - o alaw i rythm, harmoni a chân, gallwn fynegi sut rydym yn teimlo a gwneud pethau lan wrth i ni fynd trwy fywyd.

Mae fy ffilm olaf yn dangos nad oes rhaid i greadigrwydd gael ei gyfyngu i leoliadau penodol, ystafelloedd ac adeiladau.

Yn ogystal â manteision ymwybyddiaeth ofalgar o fynd am dro, mae ysbrydoliaeth anhygoel i’w gael ym myd natur.

Ar draeth stormus, ar ben bryn heulog, neu goedwig dawel, wrth ymwneud â’r byd naturiol gallwn greu cerddoriaeth, canu, a mynegi sut rydym yn teimlo.

Mae'r byd yn dod yn fwyfwy brysur, ac mae’n her i diwnio allan ar gyfer tiwnio mewn i'n hunain. Rwy'n gobeithio, os gallwch chi dreulio ychydig o amser i wylio un o'r fideos, y gallai arwain at newid bach mewn eich agwedd tuag at greadigrwydd cerddorol.

Diolch o'r galon

Molara

Ffurf : Perform
cyfranogwyr:
Grŵp
Unigol
Adnodd gan:

Molara Awen | Maisie Awen

Video: Layla Parkin