Ffilm sy’n canolbwyntio ar y broses araf a thyner o drwsio.
Artist tecstilau yw Angela Maddock sydd hefyd yn gweithio yn y celfyddydau mewn iechyd. Yn haf 2019, dechreuodd brosiect celf drwy’r post o’r enw ‘In Kind’.
Roedd y prosiect hwn yn annog pobl i anfon eitemau o edau a oedd wedi'u difrodi neu eu gwisgo at Angela i’w trwsio. Yn gyfnewid, gofynnodd i gyfranwyr rannu straeon am gysylltiadau i ddangos sut mae gwrthrychau yn gweithredu fel rhwymau parhaus rhwng anwyliaid.
Rhannwyd y prosiect In Kind ar ei chyfrif Instagram. Roedd llawer o'r gwaith trwsio yn waith gwau, ac yn cynnwys sanau, crysau chwys a chardigan.
Mae hi'n parhau â'r gwaith hwn ar gyfer y prosiect Sut i Drwsio Hosan, ffilm a wnaed gyda'r ffotograffydd a'r gwneuthurwr ffilmiau Dafydd Williams, sy’n canolbwyntio ar y broses araf a thyner o drwsio, a lle mae’n trwsio sanau a wnaed gan Corgi, y gwneuthurwyr sanau o Gymru, yn ei stiwdio yn Abertawe.
Be' 'da chi'n meddwl?
Hoffwn glywed eich adborth.