Cofiwch gael hwyl a mwynhewch y broses yn hytrach na chanolbwyntio ar y canlyniad.
Helo, fy enw i yw Emma Jones.
Rwy’n artist o Fro Morgannwg ac rwy'n angerddol am gelf a’r effaith y gall ei chael ar ein lles. Gan fod creu celf yn lleihau lefelau cortisol, ni ddylem ystyried treulio amser i fod greadigol fel rhywbeth moethus, ond fel rhywbeth y dylem fod yn ei ymgorffori yn ein bywydau bob dydd.
Y rhesymau rydw i wedi dewis y 3 celf/crefft i chi roi cynnig arnyn nhw yw:
a) maen nhw’n gallu cymryd amser byr i'w gwneud neu oriau di-ben-draw
b) maen nhw’n rhad
c) maen nhw’n sgiliau sy’n gallu cael eu trosglwyddo’n hawdd sy’n beth hyfryd i'w wneud ynddo’i hun.
Mae ganddyn nhw i gyd hefyd yr eiliad diniwed hwnnw o ryfeddod pan maen nhw'n ymddangos / yn datgelu’r elfen euraidd fewnol / yn mynd o un siâp i'r llall. Neu efallai mai dim ond fi sy’n credu hynny!
Y peth pwysicaf yw cael hwyl ac i fwynhau'r broses yn hytrach na chanolbwyntio ar y canlyniad.
Gobeithio i chi roi cynnig ar un neu'r tri a phasio eich sgiliau newydd ymlaen.
Emma Jones
Emma Jones / Tracy Pallant / Amy Peckham
Be' 'da chi'n meddwl?
Hoffwn glywed eich adborth.